Mae gwaith cartref yn cyfeirio at dasgau a roddir i ddisgyblion gan eu hathrawon i’w cwblhau y tu allan i wersi arferol.
Mae gweithgareddau gwaith cartref yn amrywio’n sylweddol, yn enwedig rhwng disgyblion iau a hŷn, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithgareddau darllen gartref, prosiectau hirach neu draethodau a gwaith mwy penodol fel adolygu ar gyfer profion.
Mae ein diffiniad hefyd yn cynnwys gweithgareddau fel ​‘clybiau gwaith cartref’ lle mae disgyblion yn cael cyfle i gwblhau gwaith cartref yn yr ysgol ond y tu allan i oriau ysgol arferol, a modelau ​‘dysgu gwrthdro’, lle mae disgyblion yn paratoi gartref ar gyfer trafodaethau a thasgau yn yr ystafell ddosbarth.
1. Mae gwaith cartref yn cael effaith gadarnhaol ar gyfartaledd (+5 mis), yn enwedig gyda disgyblion mewn ysgolion uwchradd.
2. Efallai nad oes gan rai disgyblion le tawel ar gyfer dysgu gartref – mae’n bwysig i ysgolion ystyried sut y gellir cefnogi dysgu gartref (e.e. trwy ddarparu clybiau gwaith cartref i ddisgyblion).
3. Mae gwaith cartref sy’n gysylltiedig â gwaith ystafell ddosbarth yn tueddu i fod yn fwy effeithiol. Yn benodol, cafodd astudiaethau a oedd yn cynnwys adborth ar waith cartref effeithiau uwch ar ddysgu.
4. Mae’n bwysig gwneud diben gwaith cartref yn glir i ddisgyblion (e.e. cynyddu gwybodaeth mewn maes penodol, neu ddatblygu rhuglder mewn maes penodol).
Mae effaith gyfartalog gwaith cartref yn gadarnhaol ar draws yr ysgol gynradd ac uwchradd. Fodd bynnag, mae amrywiad y tu ôl i’r cyfartaledd hwn gyda gwaith cartref wedi’i osod yn yr ysgol gynradd yn cael llai o effaith ar gyfartaledd (gweler isod).
Mae’n ymddangos bod ansawdd y dasg a osodwyd yn bwysicach na faint o waith sydd ei angen gan y disgybl. Mae rhywfaint o dystiolaeth bod effaith gwaith cartref yn lleihau wrth i’r amser y mae disgyblion yn ei dreulio arno gynyddu. Mae’r astudiaethau a adolygwyd gyda’r effeithiau uchaf yn gosod gwaith cartref ddwywaith yr wythnos mewn pwnc penodol.
Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod sut mae gwaith cartref yn gysylltiedig â dysgu yn ystod amser ysgol arferol yn bwysig. Yn yr enghreifftiau mwyaf effeithiol, roedd gwaith cartref yn rhan annatod o ddysgu, yn hytrach nag ychwanegiad. Er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf, mae’n ymddangos hefyd ei bod yn bwysig bod myfyrwyr yn cael adborth o ansawdd uchel ar eu gwaith (gweler Adborth).
Mae astudiaethau mewn ysgolion uwchradd yn dangos mwy o effaith (+5 mis) nag mewn ysgolion cynradd (+3 mis).
Ceir effeithiau cadarnhaol tebyg ar gyfer darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.
Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith cartref a osodir yn unigol, mae astudiaethau sy’n cynnwys cydweithredu â chyfoedion yn cael effeithiau uwch (+6 mis), er bod nifer yr astudiaethau’n fach.
Mae astudiaethau sy’n cynnwys technoleg ddigidol fel arfer yn cael mwy o effaith (+6 mis).
Mae disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim fel arfer yn cael buddion ychwanegol o waith cartref. Fodd bynnag, mae arolygon yn Lloegr yn awgrymu bod disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn llai tebygol o fod â man gweithio tawel, eu bod yn llai tebygol o gael mynediad at ddyfais sy’n addas ar gyfer dysgu neu gysylltiad rhyngrwyd sefydlog ac y gallent dderbyn llai o gefnogaeth rhieni i gwblhau gwaith cartref a datblygu arferion dysgu effeithiol. Gallai’r anawsterau hyn gynyddu’r bwlch mewn cyrhaeddiad i ddisgyblion difreintiedig.
Gall clybiau gwaith cartref helpu i oresgyn y rhwystrau hyn drwy gynnig yr adnoddau a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar ddisgyblion i ymgymryd â gwaith cartref neu adolygu. Mae tystiolaeth ehangach yn awgrymu na ddylid defnyddio gwaith cartref fel cosb am berfformiad gwael.
Mae gwaith cartref yn cael effaith drwy alluogi disgyblion i ymgymryd â dysgu annibynnol i ymarfer ac atgyfnerthu sgiliau, cynnal ymchwiliad manwl, paratoi ar gyfer gwersi neu adolygu ar gyfer arholiadau. Wrth weithredu gwaith cartref, mae’r dystiolaeth yn awgrymu amrywiaeth eang o ran effaith. Felly, dylai ysgolion ystyried yr elfennau ​‘gweithredol’ sy’n rhan o’r dull gweithredu, a allai gynnwys:
- Ystyried ansawdd y gwaith cartref dros y swm.
- Defnyddio tasgau wedi’u cynllunio’n dda sy’n gysylltiedig â dysgu yn yr ystafell ddosbarth.
- Nodi’n glir amcanion gwaith cartref i ddisgyblion.
- Deall a mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i’w gwblhau, fel mynediad at ddyfais ddysgu neu adnoddau.
- Addysgu strategaethau dysgu annibynnol yn benodol.
- Darparu adborth o ansawdd uchel i wella dysgu disgyblion.
- Monitro’r effaith mae gwaith cartref yn ei chael ar ymgysylltiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.
Dylai athrawon geisio deall unrhyw rwystrau i gwblhau gwaith cartref – er enghraifft, diffyg mynediad i ofod tawel neu ddeunyddiau dysgu – a cheisio osgoi dulliau sy’n defnyddio gwaith cartref fel cosb am berfformiad gwael.
Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.
Disgwylir i gost gyfartalog gwaith cartref fod yn isel iawn gyda’r gost i ysgolion yn seiliedig i raddau helaeth ar hyfforddiant ac adnoddau athrawon. Bydd gweithredu gwaith cartref hefyd yn gofyn am ychydig bach o amser staff ar gyfer cynllunio ac adborth.
Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i hybu effeithiolrwydd gwaith cartref trwy ddatblygiad proffesiynol athrawon i hyrwyddo’r defnydd o dasgau wedi’u cynllunio’n dda i ategu dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac adborth o ansawdd uchel i wella dysgu disgyblion. Dylai ysgolion fonitro effaith gwahanol ddulliau o osod gwaith cartref – fel amlder, pwrpas ac amrywiaeth y tasgau – ar ymgysylltiad a chyrhaeddiad disgyblion.
Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch gwaith cartref yn cael ei ystyried yn isel. Nodwyd 43 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collodd y pwnc gloen clap ychwanegol oherwydd:
- Nid yw canran fawr o’r astudiaethau yn hap-dreialon rheoledig. Er bod cynlluniau astudio eraill yn dal i roi gwybodaeth bwysig am effeithiolrwydd dulliau, mae risg bod canlyniadau’n cael eu dylanwadu gan ffactorau anhysbys nad ydynt yn rhan o’r ymyriad.
- Ni chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.
Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.
Guidance Reports