Diffinnir tiwtora grŵp bach fel un athro, cynorthwyydd addysgu hyfforddedig neu diwtor yn gweithio gyda dau i bump o ddisgyblion gyda’i gilydd mewn grŵp. Mae’r trefniant hwn yn galluogi’r addysgu i ganolbwyntio’n llwyr ar nifer fach o ddysgwyr, fel arfer mewn ystafell ddosbarth neu ardal waith ar wahân. Darperir tiwtora dwys mewn grwpiau bach yn aml i gefnogi dysgwyr is eu cyrhaeddiad neu’r rhai sy’n syrthio ar ei hôl hi, ond gellir ei defnyddio hefyd fel strategaeth fwy cyffredinol i sicrhau cynnydd effeithiol, neu i addysgu pynciau neu sgiliau heriol.
1. Mae tiwtora grŵp bach yn cael effaith ar gyfartaledd o gynnydd ychwanegol o bedwar mis dros gyfnod o flwyddyn.
2. Mae tiwtora grŵp bach fwyaf tebygol o fod yn effeithiol os caiff ei dargedu at anghenion penodol disgyblion. Gellir defnyddio asesiad diagnostig i asesu’r ffordd orau o dargedu’r cymorth.
3. Mae tiwtora un i un a thiwtora grŵp bach yn ymyriadau effeithiol. Fodd bynnag, mae cost effeithiolrwydd addysgu mewn grwpiau bach yn dangos y gallai mwy o ddefnydd o’r dull hwn fod yn werth chweil.
4. Mae darparu hyfforddiant i’r staff sy’n darparu cymorth grŵp bach yn debygol o gynyddu effaith.
5. Gellir targedu cymorth grŵp bach ychwanegol yn effeithiol at ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig, a dylid ei ystyried fel rhan o strategaeth premiwm disgybl ysgolion.
Effaith gyfartalog tiwtora grŵp bach yw cynnydd o bedwar mis ychwanegol, ar gyfartaledd, dros gyfnod o flwyddyn. Mae tystiolaeth yn dangos bod tiwtora grŵp bach yn effeithiol ac, fel rheol, gorau po leiaf yw’r grŵp.
Mae rhai astudiaethau’n awgrymu bod mwy o adborth gan yr athro, mwy o ymgysylltiad mewn grwpiau llai, neu waith sy’n cyd-fynd yn agosach ag anghenion dysgwyr yn esbonio’r effaith hon. Unwaith y bydd maint y grŵp yn cynyddu dros chwech neu saith mae gostyngiad amlwg mewn effeithiolrwydd.
Er y rheol “gorau po leiaf”, mae rhywfaint o amrywioldeb mewn effaith o fewn y dystiolaeth bresennol. Er enghraifft, gyda darllen, weithiau gall addysgu mewn grwpiau bach fod yn fwy effeithiol na naill ai tiwtora un i un neu diwtora pâr. Yn yr achosion hyn, mae’n bosibl y gall yr ymarfer darllen gael ei drefnu’n effeithlon fel bod yr holl ddisgyblion yn dal ati i ymgysylltu’n llawn wrth i bob un gymryd eu tro, fel mewn Darllen dan Arweiniad.
Mae’r amrywioldeb yn y canfyddiadau’n awgrymu dau beth. Yn gyntaf, gall ansawdd yr addysgu mewn grwpiau bach fod yr un mor bwysig, neu’n bwysicach nag union faint grŵp (mae tystiolaeth o fudd datblygiad proffesiynol i staff ar ganlyniadau disgyblion). Yn ail, mae’n bwysig gwerthuso effeithiolrwydd gwahanol drefniadau, gan y gall y pwnc penodol sy’n cael ei addysgu a chyfansoddiad y grwpiau ddylanwadu ar ddeilliannau.
O ystyried yr ansicrwydd a’r gost is, efallai y bydd tiwtora grŵp bach yn ddull synhwyrol o dreialu cyn ystyried tiwtora un i un.
Mae’r effaith yn tueddu i fod yn fwy mewn ysgolion cynradd (+4 mis) nag ysgolion uwchradd, lle mae llai o astudiaethau yn gyffredinol a lle mae’r effaith yn is (+2 fis).
Cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r ymchwil ar diwtora grŵp bach ar ddarllen ac mae mwy o effaith, ar gyfartaledd (+4 mis). Mae’r astudiaethau mewn mathemateg yn dangos effaith gadarnhaol sydd ychydig yn llai (+3 mis).
Sesiynau rheolaidd, dair gwaith yr wythnos, sy’n para hyd at awr dros tua 10 wythnos sydd fel arfer yn dangos yr effaith fwyaf.
Mae disgyblion isel eu cyrhaeddiad yn elwa’n benodol o diwtora grŵp bach.
Mae astudiaethau yn Lloegr wedi dangos bod disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim fel arfer yn cael manteision ychwanegol o diwtora grŵp bach.
Gall dulliau tiwtora grŵp bach gefnogi disgyblion i wneud cynnydd effeithiol trwy ddarparu cymorth academaidd dwys wedi’i dargedu i’r rhai a nodwyd fel rhai â chyrhaeddiad blaenorol isel neu mewn perygl o syrthio ar ei hôl hi. Mae’r dull gweithredu yn caniatáu i’r athro neu’r tiwtor ganolbwyntio ar anghenion nifer fach o ddysgwyr a darparu addysgu sy’n cyd-fynd yn agos â dealltwriaeth pob disgybl. Mae tiwtora grŵp bach yn cynnig lefelau uwch o ryngweithio ac adborth o’i gymharu ag addysgu dosbarth cyfan a all gefnogi disgyblion i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chynyddu eu mynediad at y cwricwlwm.
Mae tiwtora grŵp bach yn cael effaith drwy ddarparu cymorth ychwanegol sydd wedi’i dargedu at anghenion disgyblion. Mae lleihau’r gymhareb disgyblion i athrawon o gymharu â’r hyn a geir yn y dosbarth arferol yn caniatáu rhyngweithio agosach rhwng addysgwyr a disgyblion. Wrth fabwysiadu tiwtora grŵp bach, dylai ysgolion ystyried sut i sicrhau bod yr elfennau gweithredol hyn yn cael effaith gadarnhaol trwy:
- Nodi’n gywir y disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol.
- Deall bylchau dysgu’r disgyblion sy’n derbyn tiwtora grŵp bach a defnyddio’r wybodaeth hon i ddewis cynnwys y cwricwlwm yn briodol.
- Sicrhau bod athrawon wedi’u paratoi’n dda ar gyfer rhyngweithio o ansawdd uchel â disgyblion, fel cyflwyno adborth wedi’i gynllunio’n dda.
- Sicrhau bod tiwtora grŵp bach wedi’i gysylltu’n dda â chynnwys y dosbarth.
Gall athrawon, cynorthwywyr addysgu hyfforddedig, mentoriaid academaidd neu diwtoriaid gyflwyno tiwtora grŵp bach. Fel arfer, darperir ymyriadau dros gyfnod estynedig, yn aml dros sawl wythnos neu dymor i grŵp bach gyda rhwng dau a phum disgybl.
Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.
Mae cost gyfartalog tiwtora grŵp bach yn isel. Mae’r costau i ysgolion yn seiliedig i raddau helaeth ar gostau cyflog ychwanegol ac adnoddau dysgu, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gostau cylchol.
Drwy Flwyddyn 1 (2020−21) y Rhaglen Diwtora Genedlaethol, gallai ysgolion brynu sesiynau tiwtora wyneb yn wyneb neu ar-lein wedi’u sybsideiddio ar gyfer grwpiau 1:3 neu 1:2 mewn blociau o 15 awr am gost gyfartalog o £70-£100 y disgybl, gyda chostau is ar gyfer cymarebau disgybl-tiwtor uwch a darpariaeth ar-lein.
Wrth gyflwyno tiwtora grŵp bach dan arweiniad athrawon neu gynorthwywyr addysgu, mae’n debygol y bydd angen llawer iawn o amser staff o’i gymharu â dulliau dosbarth cyfan. O ystyried y costau is, efallai y bydd tiwtora grŵp bach yn ddull synhwyrol o dreialu cyn ystyried tiwtora un i un. Gweler Tiwtora un i un.
Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried defnyddio darparwyr sydd â hanes o effeithiolrwydd. Er mwyn cynyddu effaith dulliau grŵp bach, dylai arweinwyr ysgolion ystyried datblygiad proffesiynol i athrawon, cynorthwywyr addysgu a thiwtoriaid i gefnogi arferion tiwtora o ansawdd uchel.
Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch tiwtora grŵp bach yn cael ei ystyried yn gymedrol. Nodwyd 62 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collodd y pwnc glo clap ychwanegol oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol:
- Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.
Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.
Guidance Reports
Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation
Guidance Reports